Ymchwil

Ein Ffocws

Bydd gweithgarwch Acclimatize yn y lle cyntaf yn canolbwyntio ar ymgysylltu gyda budd-ddeiliaid lleol i gynllunio a darparu sylfaen dystiolaeth empeiraidd, newydd gan ddefnyddio technegau gwyddonol arloesol cyflenwol yng Nghymru ac Iwerddon. Y canlyniad cyntaf fydd sylfaen dystiolaeth gref y byddir yn ei defnyddio ar gyfer modelu rhagolygol gyda golwg ar yr elfennau sy’n gyrru newid hinsawdd mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o ddyfroedd ymdrochi arfordirol ac, o bosibl, dyfroedd cynaeafu pysgod cregyn.

Bydd Acclimatize yn canolbwyntio ar ddyfroedd ymdrochi dynodedig a dyfroedd ‘mewn perygl’ mewn dau amgylchedd cyflenwol: amgylchedd trefol ar raddfa fawr ac amgylchedd gwledig amaethyddol. Cynrychiolir yr amgylchedd trefol ar raddfa fawr gan ddyfroedd ym Mae Dulyn (glannau Sandymount, Merrion a Dollymount) a ddynodir fel rhai sydd ‘mewn perygl’, a bydd yr amgylchfyd gwledig amaethyddol yng Nghymru yn canolbwyntio ar y 5 ardal amlycaf y dynodwyd eu dyfroedd ymdrochi yn rhai sydd  ‘mewn perygl’ yng Nghymru sef Wiseman’s Bridge (Penfro), Gogledd Ceinewydd a De Aberystwyth (Ceredigion), Aberdyfi (Gwynedd) a’r Rhyl (Sir Ddinbych). Mae ffactorau gwahanol yn effeithio ar ddyfroedd ymdrochi’r amgylcheddau cyferbyniol hyn a byddant yn sicr yn dioddef effeithiau gwahanol yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

Mae gwaith Acclimatize yn derbyn cefnogaeth gref a chyfranogiad awdurdodau lleol ynghyd ag asiantaethau cenedlaethol yng Nghymru ac Iwerddon. Mae’r rhain yn cynnwys Irish Water, Asiantaeth Warchod yr Amgylchedd, Cyngor Dinas Dublin, Cyngor Sir Dún Laoghaire-Rathdown, Cyngor Sir Fingal, Cyfoeth Naturiol Cymru a Grŵp Penaethiaid Iechyd Amgylcheddol Cymru sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd.

Mae dewis senarios newid hinsawdd addas ar gyfer y dyfodol mewn ffordd ddeallus yn hanfodol yn y cyfnod hwn  a nodweddir yr elfen hon gan weithio’n agos gyda’r cymunedau polisi perthnasol yn y ddwy wlad. Byddir yn defnyddio’r sail dystiolaeth a’r rhagfynegiadau hinsawdd mewn dull newydd o fodelu i gael datganiadau ardrawiad ar gyfer pob ardal o ddŵr ymdrochi y nodir eu bod ‘mewn perygl’ yn nwy ardal yr astudiaeth. Cefnogir hyn gan fodelu ansawdd dŵr yn lleol ar sail y dull newydd o fesur llif llygrwyr sy’n cael effaith ar y defnydd cynaliadwy o ddyfroedd arfordirol. Yna gellir defnyddio’r datganiad o ardrawiad posibl ym mhob ardal o ddŵr ymdrochi i ddylunio, pan fo hynny’n addas, strategaeth gywiro addas i sicrhau fod modd parhau i ddefnyddio’r dyfroedd arfordirol hyn yn ystod y cyfnod heriol o newid hinsawdd yr ydys yn ei ragweld hyd 2100.

Yr Angen am y Gwaith

Rhagwelir y bydd newid hinsawdd yn cynhyrchu mwy o dywydd eithafol, yn neilltuol, stormydd yng Ngogledd-Orllewin Ewrop a Môr Iwerddon. Bydd hyn yn cael effaith negyddol ar ansawdd dyfroedd arfordirol yn y cyfnod hyd 2100 a fydd yn bygwth y defnydd cynaliadwy o ddyfroedd arfordirol sy’n ffurfio’r sail economaidd ar gyfer twristiaeth arfordirol a’r diwydiant cynaeafu pysgod cregyn yn yr ardaloedd cydgyfeirio.

Mae gwella dyfroedd ymdrochi yn aml yn gymhleth, neu yn gwbl amhosibl, oherwydd diffyg gwybodaeth am lif y llygredd sy’n cyfrannu at fethu cydymffurfio. Er bod awdurdodau lleol yn adnabod dyfroedd ymdrochi problematig yn rhwydd fel rhan o’u protocolau monitro yn ystod y tymor ymdrochi, maent yn aml yn brin o adnoddau ac yn amddifad o’r wybodaeth dechnegol sy’n angenrheidiol i adnabod tarddiad y llygredd ac, yn bwysicach fyth, ei fesur.

Mae amodau’r tywydd yn effeithio’n arw ar ansawdd dyfroedd ymdrochi, yn enwedig glaw ac ymbelydredd solar. Bydd newid hinsawdd yn effeithio ar faint, dwysedd, ac amser glawiad, a bydd felly’n cael effaith arwyddocaol ar ansawdd dŵr ymdrochi yn y dyfodol a, thrwy hynny, ar yr economi leol sy’n dibynnu ar ansawdd dŵr ymdrochi ardderchog ar gyfer twristiaeth a gweithgareddau economaidd morol. Bydd newid hinsawdd hefyd yn effeithio ar ddyfroedd ymdrochi mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar darddiad y llygredd. Mae’r diffyg gwybodaeth y cyfeiriwyd ato uchod mewn perthynas â llif llygredd, gan hynny, yn llesteirio’r gallu i ragweld effeithiau penodol newid hinsawdd ar ddyfroedd ymdrochi penodol. Gan hynny, mae sicrhau bod penderfyniadau rheoliadol ac isadeileddol sy’n effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi yn atebol yn wyneb newid hinsawdd yn her bolisi sy’n gofyn am ddarparu yn ddi-oed y sylfaen dystiolaeth bolisi y bydd Acclimatize yn ei chynnig.

Y newidiadau y ceisia’r gwaith eu cyflwyno:

  • Darparu ar gyfer defnydd cynaliadwy o ddyfroedd ymdrochi ‘mewn perygl’ drwy gyfnod heriol o newid hinsawdd sy’n fygythiad dirfodol newydd i gymunedau arfordirol sydd eisoes dan anfantais yn yr ardal gydgyfeirio.
  • Adnabod y mathau o lygredd sy’n gwasgu galetaf ar ddyfroedd ymdrochi mewn ardaloedd trefol a gwledig.
  • Diffinio pa mor fregus yw’r dyfroedd ymdrochi hyn yn wyneb effeithiau newid hinsawdd, ac felly lenwi’r bylchau, y cais Rhaglen Gydweithio Diriogaethol Cymru-Iwerddon eu cyfarch, yn y sylfaen dystiolaeth bresennol ar gyfer llunio polisi.
  • Datblygu dulliau rheoli ymarferol, yn cynnwys arfau rhagfynegol amser real a fydd yn arwain at wella’r amgylchedd morol a gwarchod iechyd dynol.
  • Datblygu arfau i leihau effaith, risg a bregusrwydd Môr Iwerddon, yn neilltuol dyfroedd ymdrochi a’r cymunedau arfordirol cysylltiedig, yn wyneb newid hinsawdd.
  • Gweithredu’n llwyfan i rannu gwybodaeth mewn perthynas â pheryglon a chyfleoedd yn deillio o newid hinsawdd rhwng budd-ddeiliaid yng Nghymru ac Iwerddon.

Canlyniadau

Bydd canlyniadau Prosiect Acclimatize o fudd mawr i iechyd y cyhoedd, yr economi leol a’r ecosystemau y mae’r dyfroedd hyn yn rhan ohonynt. Felly, mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at warchod a gwella’r amgylchedd morol ac arfordirol yn wyneb effeithiau cynyddol newid hinsawdd fel y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gallu eu mwynhau yn yr un modd.

X

This project has been part funded by the ERDF though the Ireland Wales Programme 2014 -2020.
www.irelandwales.eu