Y Athro Wim Meijer
PRIF YMCHWILYDD
Coleg Prifysgol Dulyn

Mae’r Athro Wim Meijer yn Athro Microbioleg ac yn Bennaeth Ysgol Gwyddorau Biomoleciwlaidd a Biomeddygol Coleg y Brifysgol, Dulyn. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar facteria pathogenig mewn perthynas ag iechyd pobl ac anifeiliaid. Yn y cyd-destun hwn cyfarwyddodd brosiectau ymchwil a gyllidwyd gan asiantaethau cyllido cenedlaethol a rhyngwladol, yn cynnwys Enterprise Ireland, Science Foundation Ireland, y Bwrdd Ymchwil Iechyd, y Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, yr Undeb Ewropeaidd (ICREW, Gwella Arfordiroedd, CODTRACE) ac Asiantaeth Warchod yr Amgylchedd Iwerddon. Ar hyn o bryd mae’r ddau sefydliad olaf yn ariannu ymchwil sy’n canolbwyntio ar ragweld ansawdd dŵr ymdrochi mewn amser real, datblygu dulliau o adnabod tarddiad biolegol a daearyddol llygredd dŵr a thechnegau i ganfod Cryptosporidium.

X

This project has been part funded by the ERDF though the Ireland Wales Programme 2014 -2020.
www.irelandwales.eu