Mae Dr Bartholomew Masterson yn Athro Cyswllt yn Ysgol Gwyddorau Biomoleciwlaidd a Biomeddygol Coleg y Brifysgol, Dulyn. Yn flaenorol bu’n uwch ddarlithydd mewn biocemeg yn UCD ac mae’n aelod o’r Gymdeithas Ddŵr Ryngwladol.
Mae gan Dr. Masterson brofiad helaeth o ymchwilio i lygredd microbaidd dyfroedd ymdrochi. Sefydlodd grŵp ymchwil amlddisgyblaethol yn 1998 i gynnal astudiaeth, ar y cyd â phartneriaid ym Mhrifysgol Cymru, o lygredd microbaidd yn nyfroedd ymdrochi Bray, Swydd Wicklow; astudiaeth a ariannwyd drwy INTERREG-II. Estynnodd y bartneriaeth y gwaith hwn ym Mhrosiect SMART, a gyllidwyd drwy’r rhaglen INTERREG-IIIa, ac a oedd yn canolbwyntio ar ansawdd dŵr ymdrochi ym Mae Dulyn ac ansawdd dyfroedd pysgod cregyn ym Mae Bannow, Swydd Wexford. Ef oedd arweinydd y prosiect yn Iwerddon ac yr oedd yn aelod o Fwrdd Rheoli Rhyngwladol prosiect INTERREG-IIIb iCREW gyda phartneriaid yn Ffrainc, Portiwgal, Sbaen a’r Deyrnas Gyfunol Roedd y gwaith ar brosiect iCREW yn cynnwys datblygu technegau olrhain tarddiad moleciwlar biolegol i bennu ffenoteip micro-organebau sy’n ddangosyddion yn yr amgylchedd acwatig. Yn fwyaf diweddar, cwblhaodd y bartneriaeth rhwng Cymru ac Iwerddon brosiect Gwella Arfordiroedd INTERREG-IVA, a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau i ragfynegi llygredd microbaidd a defnyddio technegau olrhain tarddiad.
Ar hyn o bryd mae Dr. Masterson yn rhan o ddau brosiect arall. Mae Acclimatize, a ariennir gan y Rhaglen Gydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon, yn ceisio dod o hyd i fesurau sy’n angenrheidiol i ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd ar lygredd dyfroedd ymdrochi. Mae SWIM, a ariennir gan INTERREG-VA, yn ceisio sefydlu’r modelau gorau i ragweld llygredd microbaidd mewn dyfroedd ymdrochi penodol mewn ardaloedd ar y ffin rhwng Gweiniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, a datblygu arwyddion yn cynghori’r cyhoedd.