Tîm Aberystwyth

Tîm UCDTîm Aberystwyth
Yr Athro David Kay
Prif Ymchwilydd
Prifysgol Aberystwyth

Mae David Kay yn Athro Gwyddorau’r Amgylchedd ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi gweithredu fel ymgynghorydd a/neu gynghorwr ar safonau ar gyfer dŵr ymdrochi a dŵr yfed i Sefydliad Iechyd y Byd, Yr Undeb Ewropeaidd, USEPA, NERC, EPSRC, DEFRA, DWI, HPa, Llywodraeth yr Alban, Asiantaeth yr Amgylchedd, SEPA a WRc. Mae wedi cyfarwyddo tri o brosiectau Ymchwil a Datblygiad Technolegol yr Undeb Ewropeaidd a gynlluniwyd i gryfhau’r sail mewn tystiolaeth wyddonol ar gyfer adolygu Gorchymyn Dŵr Ymdrochi 2006 (EPIBATHE, VIROBATHE a VIROCLIME). Yn ddiweddar gweithredodd David Kay fel:

  • cynghorwr arbenigol yn ymchwiliad Pwyllgor Dethol Cymunedau Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi i adolygu Gorchymyn Dŵr Ymdrochi yr UE;
  • ymgynghorydd i EU-DGXI ar adolygu safonau ar gyfer dyfroedd ymdrochi yn y Gymuned Ewropeaidd;
  • aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Gwyddonol NERC ar Fenter yr Amgylchedd ac Iechyd Dynol;
  • aelod o bwyllgor llywio Sefydliad Iechyd y Byd ar lygredd gwasgaredig o wastraff da byw a’r effeithiau ar iechyd dynol;
  • cynghorwr i Sefydliad Iechyd y Byd ar ddylunio canllawiau ar ddŵr ymdrochi ac asesu risg mewn perthynas â dŵr;
  • ymgynghorydd i Sefydliad Iechyd y Byd a Chynllyn Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ar ddatblygu asesiad baich afiechyd byd-eang ym maes dŵr a charthffosiaeth a’r data dŵr a charthffosiaeth a ddefnyddir wrth ddylunio amcanion datblygiad cynaliadwy;
  • cynghorwr i USEPA ar adolygu canllawiau ansawdd dŵr ymdrochi yr UDA; ac
  • ymgynghorydd i Sefydliad Iechyd y Byd a’r Undeb Ewropeaidd ar adolygu’r Gorchymyn Dŵr Ymdrochi (2006).

Dr Mark Wyer
Ymchwilydd Ôl-ddoethurol
Prifysgol Aberystwyth

Astudiodd Dr Mark Wyer ddeinameg maetholion mewn dalgylchoedd ar gyfer ei MSc yng Nghanada a’i PhD yng Nghymru. Fel gwyddonydd ôl-ddoethurol, mae wedi arloesi yn y DG mewn ymchwil i ddeinameg microbaidd dalgylchoedd ac arllwysiad organebau a phathogenau sy’n ddangosyddion ysgarthol i ddyfroedd arfordirol wrth y lan. Mae wedi cyhoeddi dros gant o bapurau gwyddonol ac adroddiadau yn y maes hwn a chwblhau gwaith cysylltiedig ar effeithiau gweithgareddau dŵr môr a dŵr croyw ar iechyd.

Arweiniodd Mark y gwaith ar fodelu ansawdd dŵr ymdrochi ym Mae Abertawe drwy’r prosiect Gwella Arfordiroedd a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd. Gwelwyd gwelliant yn ansawdd dŵr ymdrochi safle’r prosiect, o ddynodiad ‘mewn perygl’ i ddynodiad ‘da’ cyson.  Mark sy’n rheoli’r timau gwaith maes yng Nghymru ar gyfer prosiect Acclimatize ac ef fydd yn arwain y gwaith ym maes casglu data, cymharu, glanhau, dadansoddi ac adrodd. Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau cerdded mynyddoedd a chwarae cerddoriaeth acwstig.


AE Dr Arwyn Edwards
PRIF YMCHWILYDD
Prifysgol Aberystwyth

Darllenydd yn y Biowyddorau yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yw Arwyn Edwards, ac ef yw Cyfarwyddwr Canolfan Rhyngddisgyblaethol Microbioleg Amgylcheddol Prifysgol Aberystwyth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng microbau yn yr amgylchedd a heriau byd-eang, ac mae wedi cymhwyso dulliau newydd wrth ddadansoddi genomeg cymunedau microbaidd ar draws y byd. Ar hyn o bryd mae’n ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar agweddau ar COVID-19 sy’n ymwneud â gwyddor amgylcheddol. Mae wedi cyhoeddi dros 60 o bapurau ers ei PhD yn 2009 ac ar hyn o bryd mae’n arwain dau brosiect a ariennir gan UKRI. Mae Arwyn yn arwain yr elfen olrhain ffynonellau microbaidd ar gyfer y prosiect ACCLIMATIZE.


Paula Hopkins
Gweinyddydd y Prosiect
Prifysgol Aberystwyth

Paula Hopkins yw Uwch Weinyddydd y Ganolfan Ymchwil Amgylcheddol ac Iechyd (CREH) er 1990. Paula sy’n gyfrifol am agweddau clerigol ac ariannol prosiectau cronfa strwythurol yr UE a gwblheir gan CREH. Mae prosiectau blaenorol yn cynnwys Smart Coasts Sustainable Communities (hefyd gyda Choleg Prifysgol Dulyn yn Iwerddon). Mae cyfrifoldebau eraill wedi cynnwys cyswllt â’r cyhoedd, recriwtio timau maes a chaffael mewn prosiectau a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a’r UE.


Dr Carl Stapleton
Ymchwilydd Ôl-ddoethurol
Prifysgol Aberystwyth

Mae gan Carl Stapleton dros bum mlynedd ar hugain o brofiad o ymchwilio ac ymgynghori ym meysydd ansawdd dŵr, prosesau afonol, aberol ac arfordirol, a geomorffoleg.  Yng Nghanolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd bu Carl yn gysylltiedig â sawl prosiect ym maes ansawdd dŵr a oedd yn ymchwilio i ansawdd dŵr yfed, ansawdd dŵr ymdrochi, modelu cyllideb microbau a maetholion, olrheinwyr microbaidd, olrhain tarddiad microbaidd a’r potensial ar gyfer ewtroffeiddiad mewn dyfroedd arfordirol.

Mae Carl hefyd wedi adrodd ar epidemioleg dŵr ymdrochi, effaith gwell triniaeth dŵr gwastraff ar faich afiechyd ac effeithiolrwydd prosesau trin ac mae wedi cynnal ymchwil gwreiddiol i effeithiau prosesau diheintio UV ar elifiant carthion heb eu trin yn dilyn stormydd. Mae gan Carl brofiad helaeth o gynllunio a rheoli prosiectau ymchwil sy’n golygu trefnu timau mawr i wneud gwaith maes, ac sy’n aml yn golygu cydgordio timau arolygu ar y tir ac ar y dŵr (h.y. mewn cychod).


Dr Cheryl Davies
Ymchwilydd Ôl-ddoethurol
Prifysgol Aberystwyth

Enillodd Dr Cheryl Davies ei doethuriaeth yn Adran Beirianneg Sifil, Prifysgol Newcastle upon Tyne. Mae ganddi bum mlynedd ar hugain o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol mewn sawl agwedd ar iechyd cyhoeddus, microbioleg dŵr a dŵr gwastraff. Yn flaenorol bu’n wyddonydd ymchwil yn gweithio i WRc (UK), CSIRO, Sydney Water, a Phrifysgol De Cymru Newydd (Awstralia), ac mae wedi gweithio ar amrediad eang o brosiectau yn ymwneud â dŵr, o astudiaethau o dynged a chludiant microbau i astudiaethau yn defnyddio gwirfoddolwyr i fesur bioargaeledd alwminiwm mewn dŵr yfed.


X

This project has been part funded by the ERDF though the Ireland Wales Programme 2014 -2020.
www.irelandwales.eu