Ymchwil

Prosiect gan ymchwilwyr yng Nghymru (Prifysgol Aberystwyth) ac Iwerddon (Coleg Prifysgol Dulyn (UCD)) yw Acclimatize. Ein nod yw canfod sut mae dyfroedd ymdrochi glan môr yn cael eu llygru mewn ffordd sy’n gallu effeithio ar iechyd y cyhoedd, a sut y gallai newid yn yr hinsawdd effeithio ar ansawdd y dyfroedd hyn yn y dyfodol. Caiff prosiect Acclimatize ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Raglen Iwerddon Cymru 2014 – 2020. Dechreuodd prosiect Acclimatize ym mis Chwefror 2017 a daw i ben yn 2023.

Pwy sy’n cydweithio â ni?

Yn Iwerddon rydym ni’n gweithio gyda Chyngor Dinas Dulyn, Cyngor Sir Dún Laoghaire-Rathdown, Cyngor Sir Fingal, Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd, Irish Water, Partneriaeth Biosffer Bae Dulyn a Waterways Ireland.

Yng Nghymru rydym ni’n gweithio gyda Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynrychiolwyr o Lywodraeth Leol Cymru (Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Cymuned Llanbadrig, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro), Llywodraeth Cymru a sefydliadau anllywodraethol perthnasol (trwy Bartneriaeth Dŵr ac Iechyd Cymru (y Grŵp Dyfroedd Ymdrochi)).

Pam mae ansawdd dŵr ymdrochi o ddiddordeb inni?

Mae dŵr y môr ger yr arfordir yn bwysig. Nid yn unig mae’n rhoi cyfle i ni fwynhau nofio a chwaraeon dŵr, ond gall hefyd ddarparu bwydydd megis pysgod, pysgod cregyn a gwymon bwytadwy. Os yw’r dŵr môr arfordirol hwn yn cael ei lygru gan garthion pobl neu anifeiliaid (gallai hyn fod o dda byw ger afon sy’n llifo i’r môr, neu wylanod neu gŵn ar y traeth ei hun), gall lefelau bacteria a firysau niweidiol yn y dŵr ymdrochi gynyddu a bygwth iechyd pobl. Pan ganfyddir lefelau trothwy penodol o facteria dangosol ysgarthol yn y dŵr ymdrochi, mae’n bosibl y bydd traethau’n cael eu cau, gan effeithio ar dwristiaeth a’r economi arfordirol leol.

Mae prosiect Acclimatize yn canfod ffynonellau’r llygredd, gan ddarogan eu heffaith gan ddefnyddio modelu a mesuriadau amser real er mwyn pennu maint cyfraniad pob un o’r ffynonellau hyn at lefelau cyffredinol y llygredd. Mae hyn yn ein cynorthwyo i gael gwell dealltwriaeth o’r mannau lle mae’r llygru’n digwydd yn y lle cyntaf a’r rhesymau am hynny, a hefyd i geisio canfod sut y gellir lleihau’r llygru neu ei atal yn llwyr. Profwyd hefyd fod yr elfen rhagfynegi, a ddatblygwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ac sydd wedi’i chynnwys yn rheoliadau’r UE a’r DU, yn gwella cydymffurfiaeth dyfroedd ymdrochi dynodedig.

Bydd prosiect Acclimatize hefyd yn dadansoddi effeithiau sefyllfaoedd newid hinsawdd er mwyn pennu’r effaith ar ansawdd dŵr microbaidd a’r perygl i iechyd. Yn y tymor hwy, rydym yn disgwyl y bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y glawiad ym Môr Iwerddon a’r cyffiniau, gan altro faint o ddŵr ffo sy’n llifo i’r môr, ac o bosibl yn newid y peryglon llygredd. Mae’r gwaith modelu cychwynnol yn y maes hwn yn awgrymu y gallai ansawdd y dŵr wella yn ystod cyfnod ymdrochi’r haf.

Pam ydym ni’n cynnal yr astudiaeth?

Mae Acclimatize yn canolbwyntio ar ddyfroedd ymdrochi penodedig sydd ‘mewn perygl’ mewn dau amgylchedd cyflenwol: amgylchedd trefol mawr ac amgylchedd amaethyddol gwledig. Cynrychiolir yr amgylchedd trefol mawr gan ddyfroedd ymdrochi sydd ‘mewn perygl’ ym Mae Dulyn (traethellau Sandymount, Merrion a Dollymount) a thraethau Donabate a Portrane yng ngogledd sir Dulyn. Mae’r amgylchedd amaethyddol gwledig yng Nghymru yn canolbwyntio ar y prif ddyfroedd ymdrochi sydd ‘mewn perygl’: Cemaes, Ynys Môn; Traeth y Dolau/Gogledd Ceinewydd a Thraeth Gwyn yng Ngheredigion; a Nolton Haven yn Sir Benfro. Mae ffactorau gwahanol yn effeithio ar y dalgylchoedd a’r dyfroedd ymdrochi yn yr amgylcheddau cyferbyniol hyn, a bydd newid yn yr hinsawdd yn debygol o effeithio arnynt mewn ffyrdd gwahanol.

Sut ydym ni’n cyflawni’r astudiaeth?

Rydym ni’n defnyddio cyfuniad o waith maes helaeth, dadansoddiadau labordy a monitro amgylcheddol, gan gynnwys paramedrau hydrometrig a meteorolegol. Rydym ni’n casglu gwybodaeth fel hyn a’i chyfuno â’r hyn a wyddom eisoes am gyrsiau afonydd, tywydd a rhagfynegiadau o’r hinsawdd er mwyn creu modelau cyfrifiadurol.

Yn y tymor byr, gallwn ddefnyddio’r modelau hyn i gyfrifo’r peryglon i’r dyfroedd ymdrochi. Yn ogystal â hyn, rydym ni’n creu rhagfynegiadau mwy hirdymor hyd at ddiwedd y ganrif sy’n rhoi ystyriaeth i’r newid yn yr hinsawdd. Bydd yr wybodaeth hon yn cynorthwyo gwneuthurwyr polisi ac awdurdodau lleol i ddiogelu’r amwynderau a’r adnoddau gwerthfawr y mae dyfroedd ymdrochi yn eu darparu.

Canlyniadau

Bydd canlyniadau prosiect Acclimatize yn dod â budd sylweddol i iechyd y cyhoedd, yr economi leol a’r ecosystemau y mae’r dyfroedd ymdrochi hyn yn rhan ohonynt. Mae’r prosiect, felly, yn cyfrannu at gynnal a gwella’r amgylchedd morol ac arfordirol er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu eu mwynhau yn wyneb effeithiau cynyddol newid yn yr hinsawdd.

Ein hymateb i bandemig COVID-19

Ers mis Mawrth 2020 mae prosiect Acclimatize wedi addasu i’r newidiadau a achoswyd gan bandemig COVID-19. Er y cafwyd effaith dros dro ar gyflawni rhai pecynnau gwaith, mae’r prosiect wedi addasu er mwyn cyflawni pecynnau gwaith eraill yn gynt na’r amserlen. Rydym wedi gallu parhau â rhywfaint o waith maes a gwaith yn y labordy ar gapasiti is er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol, ac mae’r cyfarfodydd wedi cael eu symud ar-lein.

SARS-CoV-2 – Cadw Gwyliadwriaeth ar Garthion

Ym mis Mai 2020 cafodd y tîm yn UCD gyllid gan Sefydliad Gwyddoniaeth Iwerddon dan eu Galwad am Geisiadau am Gyllid mewn Ymateb Chwim i COVID-19 er mwyn astudio SARS-CoV-2 mewn carthion a chrynofeydd dŵr y mae carthion yn effeithio arnynt.

Roedd yn rhaid cychwyn y prosiect yn gyflym, a chyda chaniatâd gan Raglen Iwerddon-Cymru bu modd i ymchwilwyr ar brosiect Acclimatize gyfrannu at gyflawni’r prosiect pwysig hwn.

Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd yn agos â Phecyn Gwaith 4 Acclimatize (Olrhain Ffynonellau Microbaidd) ac felly mae cadw gwyliadwriaeth am SARS-CoV-2 mewn carthion er budd i brosiect Acclimatize hefyd, yn ogystal â bod yn system rybuddio gynnar, o bosibl, ar gyfer tonnau eraill o’r haint. Mae’r gwaith hwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y peryglon iechyd i weithwyr cyfleusterau trin dŵr gwastraff ac i’r cyhoedd, a allai ddod i gysylltiad â chrynofeydd dŵr y mae carthion yn effeithio arnynt. Rhannwyd data o’r gwaith hwn gan dîm UCD â’r Tîm Argyfwng Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (NPHET) yn Iwerddon a’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) yn y DU, sy’n arwydd pellach o werth gwaith trawsffiniol Acclimatize a pherthnasedd y gwaith i’r ddwy wlad.

X

This project has been part funded by the ERDF though the Ireland Wales Programme 2014 -2020.
www.irelandwales.eu